PET(4)-06-11 p11a

P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt syn peri diflastod

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf er mwyn rheoli sŵn o dyrbinau gwynt syn peri diflastod yn ystod oriau anghymdeithasol. Gofynnwn am gychwyn cyfnodau o seibiant pan fydd tyrbinau gwynt yn cael eu diffodd.

Mae cyfnodau o seibiant rhag sŵn yn gyffredin mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw amdanynt yn ei adroddiad ar sŵn cymunedol; ac ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig maent yn weithredol mewn meysydd awyr, safleoedd adeiladu, ffatrïoedd a safleoedd eraill sydd â sŵn syn peri diflastod gydar hwyr a thros nos.

Rydym yn galw ar hyn i fod yn berthnasol i dyrbinau sydd dros 1.3MW, a bod cyfnodau o seibiant rhwng 18.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 1.5Km i breswylfeydd unigol; a rhwng 22.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 2Km i gymunedau. Dylai awdurdodau yng Nghymru sy’n trafod ceisiadau am dyrbinau sy’n cynhyrchu llai na 50MW o drydan, a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith sy’n trafod ceisiadau ar gyfer tyrbinau sy’n cynhyrchu dros 50MW o drydan, hysbysu datblygwyr o’r cyfyngiad iechyd y cyhoedd hwn a all effeithio ar dyrbinau unigol.

Linc i’r ddeiseb: http://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-closed-petition-signatories_all.htm?pet_id=595

Cyflwynwyd y ddeiseb gan: James Shepherd Foster

Nifer y llofnodion: 1074

Gwybodaeth ategol: Yn ogystal â iechyd y cyhoedd, byddai’r mesur yn amddiffyn anifeiliaid y nos fel ystlumod, tylluanod ayb. Mae Jonathan Edwards AC wedi galw am fesur o’r fath, ac mae Rhodri Glyn Thomas AC wedi galw am fesur tebyg i hwn. Ni fyddai hyn yn effeithio ar Nodyn Cyngor Technegol 8 (TAN 8) ac ni fyddai TAN 8 yn effeithio ar y mesur hwn, oherwydd nid yw TAN 8 yn delio gyda goblygiadau tyrbinau ar iechyd. Hefyd, dim ond gallu tyrbinau i gynhyrchu trydan fel gwerth sy’n angenrheidiol, ac nid pa mor effeithiol yw’r tyrbinau ar gynhyrchu trydan. Mae gan Gymru hen hanes o esgeuluso materion Iechyd a Diogelwch, ac mae hyn wedi arwain at gyfyngu ar fywydau pobl mewn cyfran helaeth o’r gymuned. Yn ystod eu datblygiad, ni ddylid chwarae â chlyw plant ifanc, ac nes i bwyntiau ymchwil sylweddol a gaiff eu derbyn gan y byd meddygol ynghylch llacio ar yr amseroedd a’r pellterau sydd wedi’u nodi yn y ddeiseb hon gael eu profi, dylid bod yn bwyllog yn hyn o beth.